Straeon y geni

Rhybudd: Fe all cynnwys yr erthygl hon achosi gofid i rai darllenwyr

rhiannon
Image caption Rhiannon Pratt

Dyw bod yn rhiant ddim yn hawdd, ond cafodd y ddwy fam yma ddechrau sigledig ar ôl cael eu babis cyntaf, a'r ddwy wedi byw mewn tawelwch am eu teimladau, tan nawr.

"Dwi'n cofio cerdded i mewn i'r gegin, gyda fy meddwl ar ras. Beth os alla i ei losgi fe ar y ffwrn? Ei roi e yn y microdon? Tybed a fyddai'r gyllell yma'n hollti ei wddwg? Os fydden i'n ei adael e ar lawr, a fyddai'n marw yn y pendraw?

"Bydden i'n meddwl am y pethau yma i gyd, yn ogystal â dychmygu gwahanol senarios, fel beth pe bawn i'n mynd ag e i'r goedwig a'i adael e yno, a byddai'r bywyd gwyllt yn rhwygo ei gorff yn ddarnau. Bydden i'n clywed ei sgrechfeydd. Roedd y meddyliau hyn yn arteithiol."

I Rhiannon Pratt, 31 oed o Lanharan, nid fel hyn oedd hi fod. Roedd hi ar ei phen ei hun gyda babi bach newydd anedig, heb gefnogaeth y tad.

"Wnes i fyth ddychmygu y bydden i'n fam ifanc. Ges i fy magu fel mormon, sy'n ymwrthod cyn priodi. Roedd gen i fwriad i fod yn driw i fy ffydd."

Ond nid felly bu, a gyda hithau'n 21 oed, yn y brifysgol, fe wnaeth hi feichiogi gyda'i chariad cyntaf, ond fe wnaeth y ddau orffen yr un penwythnos.

"Doedd e ddim yn clean break, wnes i ddal arno i drio bod gydag e am dair blynedd, gan dwyllo fy hun un diwrnod y byddai e'n gweld y golau, ac eisiau bod yn deulu.

"O'r cychwyn cyntaf, ro'n i'n isel ofnadwy, ac o dan straen drwy gydol fy meichiogrwydd i gyd. Mae gorffen gyda'ch cariad cyntaf yn hunllefus ac yn anodd beth bynnag, ond roedd bod yn feichiog yn ei wneud yn erchyll."

Doedd hyn oll felly ddim yn ddechrau da iddi a'i iechyd meddwl, fel darpar fam, meddai.

"Y gyllell oedd y peth mwyaf ofnus, gyda Daniel yn fabi bach mewn un llaw a'r gyllell yn y llall. Dim ond eiliad ddamweiniol o weithredu ar syniad yn fy meddwl, a byddwn i wedi lladd fy mabi."

Image copyright Rhiannon Pratt
Image caption Rhiannon a'i theulu

Dyheu am y tad

Roedd ei meddwl hi'n ddarnau, wrth feddwl am ba mor fregus oedd y babi bach yma, meddai, a pha mor hawdd fyddai e iddi ei ladd.

"Y cyfan oedd ar fy meddwl oedd y dyheu yma - ro'n i eisiau cael ei dad e'n ôl," meddai Rhiannon Pratt.

"Ro'n i'n fam sengl, yn ysu am gael y teulu perffaith, llawn cariad. Ro'n i wedi blino'n lan, a do'n i ddim wedi caru fy mab yn syth.

"Roedd fy holl egni emosiynol yn ffocysu ar ei dad, a'r ysfa i'w gael e i fy ngharu i."

Doedd hi ddim yn gwybod lle i droi, meddai, a hynny am amser hir iawn.

"Ro'n i'n meddwl fy mod i'n crazy. Dwi 'di cadw'r gyfrinach 'budr' yma am ddeng mlynedd, yn meddwl fy mod i'n psycho," meddai.

"Dwi'n teimlo'n grac iawn nad o'n i'n gwybod bod pobl eraill yn cael union yr un meddyliau â fi."

Amser i 'fi'

Mae Rhiannon wedi mynd ymlaen i gael dau o blant eraill, ac mae un arall ar y ffordd.

"Ers ffeindio fy 'Knight in shining armour', priodi, cael mwy o blant, wnaeth hyn oll ddim atal iselder, ond dwi ddim yn cofio cael unrhyw feddyliau o ladd fy mhlant. Wnes i eu caru nhw'n syth," meddai.

Gyda'r babi nesaf, mae hi'n paratoi ei hun y bydd hi'n her, ond mae'n gobeithio cael mwy o amser i'w hun.

"Mae gwneud amser i fy hun yn rhywbeth prin iawn ers bod yn fam, ac mae'n siŵr bod hynny wedi ychwanegu at fy mhroblemau iechyd meddwl.

"Ond er yr holl ddüwch, dwi'n caru fy mhlant, a dwi wrth fy modd yn bod yn fam. Y peth gorau dwi wedi ei wneud erioed, er bod problemau iechyd meddwl yn gwneud pethau'n anoddach."

Image caption Sarah-Jane Morphew

Teimlad o fethiant

Un arall sydd wedi brwydro iselder ôl-geni, ac sy'n parhau i fyw gydag iselder yw Sara-Jane Morphew, 31 oed, o Sir Benfro.

Cyn cael plant, roedd bywyd yn dda iddi, er mae'n cyfaddef iddi fod yn reit swil a sensitif.

"Roedd gen i broblemau gyda fy hunan-hyder, ac fe wnes i fethu cyflawni fy ngradd, a ro'n i'n teimlo'n fethiant. Y cam nesaf oedd bod yn fam, felly ro'n i'n meddwl y byddai hynny'n rhoi boost i fi."

Ond doedd pethau ddim yn fêl i gyd ar ôl cael ei phlentyn cyntaf, meddai.

"Dwi'n cofio eistedd yn yr ysbyty gyda William, fy mab, yn syth ar ôl ei eni, jest yn llefain achos do'n i ddim yn gallu ei gael e i fwydo.

"Wnaeth y teimlad yna o fethiant ddim fy ngadael. Bydden i'n ei fwydo, gyda fy nagrau yn disgyn ar ei foch.

"Ar ôl llwyddo i ymdopi gyda bwydo o'r fron, cafodd e reflux, a byddai e'n chwydu'r llaeth yn ôl, a ro'n i erbyn hyn yn torri fy nghalon.

"Ro'n i'n gwneud y camau iawn, ond doedd y babi bach yma ddim eisiau llaeth ei fam. Doeddwn i ddim yn ddigon da iddo, a ro'n i'n gwneud popeth yn anghywir.

"Ond eto roedd rhaid i fi esgus fy mod i'n iawn wrth bawb. Ro'n i'n gwybod nad o'n i'n teimlo'n iawn o gwbl, ond roedd rhaid palu ymlaen."

Er na chafodd hi unrhyw deimladau o eisiau niweidio ei babi, roedd pethau'n anodd, meddai.

"Roedd gen i ofn y byddai rhywun yn mynd ag e oddi arna i, achos nad o'n i'n ddigon da."

Image copyright Sarah-Jane Morphew
Image caption Sarah-Jane Morphew a'i theulu

'Palu 'mlaen'

"Y baby blues oedd arna i, medden nhw, ac roedd yna ymdeimlad o 'chin up a charia 'mlan'," meddai wrth gofio'r cyfnod pan wnaeth hi droi at aelod o deulu a ffrind i ddweud ei bod hi'n teimlo'n isel.

Ar ôl hyn, wnaeth hi ddim sôn wrth neb am ei theimladau, wrth yr ymwelydd iechyd, doctor, ffrindiau a theulu, na hyd yn oed ei hun.

"Roedd disgwyl i fi gario 'mlaen. Roedd pawb arall yn gwneud, felly pam ddim fi? Roedd gen i'r catchphrases i gyd. Dweud 'dwi'n fine', 'dwi jest wedi blino', ac ati.

"Doedd cyfaddef fy mod i'n isel ddim yn opsiwn. Doedd neb arall yn ymddangos fel eu bod nhw'n cael gwaith ymdopi."

Felly brwydro ymlaen wnaeth Sara-Jane Morphew a chuddio ei theimladau yng nghefn ei feddwl.

Daeth ei hail fab, Henri, a'r un oedd y drefn - parhau gyda bywyd bob dydd. Roedd hi fel nifer fawr o famau, yn gweithio ac yn magu plant, meddai.

"Ond ar ôl pum mlynedd, wnes i ddisgyn yn deilchion, ac roedd yr iselder wedi dod yn flaenllaw yn fy mywyd."

Erbyn hyn, mae hi'n rhedeg blog ei hun, er mwyn ceisio ymdopi a rhoi ei theimladau i lawr mewn modd creadigol.

"Mae'n help i fi drefnu fy nheimladau, a chael pethau allan o fy system. Dwi'n ysgrifennu er lles fy hun. Ond os ydw i'n llwyddo i helpu un person, a gwneud iddyn nhw deimlo nad ydyn nhw ar ben ei hun, dwi'n hapus iawn gyda hynny.

"Mae wedi rhoi hyder o'r newydd i fi, ac angerdd hefyd," meddai.

Stori: Llinos Dafydd