Huw Thomas yw arweinydd newydd Cyngor Caerdydd

  • 8 Mai 2017
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Huw Thomas ei fod am weld Caerdydd yn "ffynnu a thyfu"

Mae cynghorwyr Llafur Cyngor Caerdydd wedi dewis Huw Thomas fel arweinydd newydd.

Mae Mr Thomas yn olynu Phil Bale sydd wedi bod yn arweinydd ar gyngor mwyaf Cymru ers 2014.

Dywedodd un ffynhonnell o'r blaid ddydd Gwener fod nifer yn anhapus â Phil Bale. Ef oedd arweinydd y cyngor cyn yr etholiadau lleol ac roedd rhai wedi ei ddisgrifio fel "gwleidydd di-glem".

Roedd Mr Thomas, sy'n gynghorydd yn ward Sblot yn un o bump oedd wedi rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Daw Mr Thomas, sy'n 31 oed, yn wreiddiol o Aberystwyth.

Mae'n debyg mai Lynda Thorne, Ed Stubbs, Graham Hinchey a Chris Weaver oedd yr ymgeiswyr eraill.

Mae'r Ceidwadwyr bellach yn cymryd lle'r Democratiaid Rhyddfrydol fel y brif wrthblaid ar y cyngor gyda 20 sedd.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi dewis Adrian Robson fel arweinydd newydd wedi i David Walker ildio'r awenau.

Straeon perthnasol