Awyren fach blastig o Fôn yn teithio 150 milltir i Loegr

  • 4 Mai 2017
awyren Image copyright Abbie Lee

Mae awyren fach blastig ddechreuodd ei thaith ar Bont Menai wedi ei darganfod tua 150 o filltiroedd i ffwrdd.

Fe gafodd Abbie Lee a'i phlant o Sir Fôn gerdyn post gan ddynes o'r enw Kathy, yn dweud bod yr awyren wedi ei darganfod yng Nghaerlŷr.

Mae Ms Lee wedi ei synnu bod yr awyren 55cm o hyd wedi teithio mor bell.

Image copyright AFP
Image caption Roedd merched Ms Lee wedi rhyfeddu wrth weld y cerdyn post yn cyrraedd

Dywedodd Ms Lee: "Yn lle chwarae gyda'r awyren, fe benderfynom ni ysgrifennu nodyn, a'u taflu dros ochr Pont Menai, 'doedda ni ddim yn meddwl y bysa ni'n eu gweld fyth eto.

Nid oedd Ms Lee yn gallu credu pan gyrhaeddodd y cardiau post o Ganolbarth Lloegr.

"Tyda ni wir ddim yn gwybod sut aeth yr awyren mor bell."

Image copyright Abbie Lee
Image caption Fe ddaeth y cerdyn post gan "Kathy" ar 29 Ebrill
Image copyright Getty Images
Image caption Mae Pont Menai yn cysylltu'r Ynys gyda gweddill Cymru