Cymry Llundain yn penodi Sonny Parker

  • 4 Mai 2017
Sonny Parker Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Sonny Parker orffen ei yrfa fel chwaraewr rygbi yng nghrys Cymry Llundain yn 2013

Mae'r cyn chwaraewr rhyngwladol Sonny Parker wedi ei benodi yn gyfarwyddwr rygbi Clwb Cymry Llundain.

Cafodd y clwb eu hatal rhag chwarae yng nghynghreiriau proffesiynol Lloegr yn ogystal â cholli eu lle yn y Bencampwriaeth ym mis Ionawr ar ôl cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Fe wnaeth Parker, sy'n 39 oed, ennill 31 cap i Gymru cyn ymuno a Chymry Llundain fel chwaraewr ac yna fel hyfforddwr.

Y flwyddyn nesaf bydd yng nghlwb yn chwarae yng nghynghrair Herts a Middlesex.

Mae cyn prop y Gweilch, Cai Griffiths wedi ei benodi yn is-reolwr.

Dywedodd Parker ei fod wedi cyflwyno cynllun pum mlynedd i'r clwb gyda tharged o gyrraedd yn ôl i strwythur cynghrair cenedlaethol Lloegr.