Torri safonau glendid dŵr Ewropeaidd yng ngorllewin Cymru

  • 4 Mai 2017
Cilfach Tywyn

Mae Llys Ewropeaidd wedi dyfarnu fod y Deyrnas Unedig wedi torri'r gyfraith wrth ryddhau gormod o garthion a dŵr gwastraff i'r môr oddi ar arfordir y gorllewin.

Mae pibellau gorlifo yn cael eu defnyddio yng Nghilfach Tywyn ger Llanelli er mwyn atal llifogydd.

Ond dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod y sefyllfa'n torri rheolau dŵr glan mewn ardal gadwriaethol yn aber afon Llwchwr.

Mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi er mwyn gwella'r sefyllfa.

Hen system

Er nad yw'r DU wedi cael dirwy, bydd yn rhaid talu costau cyfreithiol, mewn achos ddaeth o hyd i enghreifftiau eraill hefyd o dorri rheolau dŵr gwastraff yn Lloegr a Gibraltar.

Mae'r problemau'n deillio o system garthffosiaeth Fictorianaidd sydd bellach yn hen.

Cafodd y pibellau eu cynllunio i gyfuno carthion a dŵr glaw, ond dros y blynyddoedd mae datblygiadau tai newydd a stormydd cynyddol wedi rhoi'r system dan bwysau.

Image copyright OTTO HERSCHAN/GETTY
Image caption Mae'r problemau'n deillio o system garthffosiaeth Fictorianaidd sydd bellach yn hen

Mae gan Dŵr Cymru tua 3,000 o bibellau gorlifo ar draws y wlad, sy'n cael eu defnyddio i ryddhau'r pwysau ar ddraeniau a ffyrdd, ond maen nhw'n rhyddhau carthion a dŵr yn syth i'r môr.

Yn achos Cilfach Tywyn, mae 14 pibell yn rhyddhau hylif i ardal sydd i fod wedi ei warchod gan gyfraith y DU a'r UE.

Mae'r ardal gadwraeth yn cynnwys morfa heli a chynefinoedd i filoedd o adar gwyllt yn ystod y gaeaf.

Mae'r diwydiant cocos hefyd wedi diodde' yn yr ardal yn ddiweddar, ond mae Dŵr Cymru'n mynnu nad gwastraff o'r pibellau sydd wedi achosi hynny.

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn buddsoddi £113m ar brosiect arloesol i ostwng lefel y gwastraff sy'n cyrraedd y môr.

'Rhy hwyr'

Roedd Llywodraeth Prydain yn dadlau fod y gwelliannau sydd ar y gweill yn golygu y bydden nhw'n cwrdd â gofynion glendid dŵr yr UE erbyn 2020.

Serch hynny, daeth Llys Cyfiawnder Ewrop i'r casgliad fod y DU wedi gweithredu'n "rhy hwyr", a dyfarnodd barnwyr fod y gwastraff wedi cyfrannu at waethygu ansawdd y dŵr yn aber afon Llwchwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod dyfarniad y Llys Ewropeaidd.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ar raglen £113m i leihau nifer yr achosion o wastraff, gwella safon y dŵr a gostwng y perygl o lifogydd lleol erbyn 2020."