Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465

  • 5 Mai 2017

Mae dynes 27 oed o ardal Tredegar wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 rhwng Glyn Ebwy a Brynmawr nos Iau.

Roedd y ddynes yn teithio ar gefn beic modur ac fe fu farw yn y fan a'r lle.

Cafodd gyrrwr y beic, dyn 56 oed o'r un ardal ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad.