Grŵp Llafur i drafod eu harweinydd ar Gyngor Caerdydd

Phil Bale
Image caption Mae Phil Bale eisoes wedi goroesi un her i'w arweinyddiaeth

Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd cynghorwyr Llafur Caerdydd sydd yn anhapus gydag arweinyddiaeth y blaid ar y cyngor, yn cyfarfod ddydd Gwener.

Daw hynny wedi i'r blaid lwyddo i gadw'u mwyafrif ar gyngor y ddinas, a hynny'n groes i ddisgwyliadau.

Mae Llafur wedi ennill 40 o'r 75 sedd ar gyngor y ddinas, chwech yn llai na'r hynny enillon nhw yn 2012.

Roedd rhai o fewn y blaid wedi awgrymu eu bod wedi disgwyl ennill "llai na 30 sedd", cyn i ganlyniadau'r noson gael eu cyhoeddi.

'Canlyniad gwych'

Dywedodd un ffynhonnell o'r blaid yn gynharach fod nifer yn anhapus â Phil Bale, oedd arweinydd y cyngor cyn yr etholiad, gan ei ddisgrifio fel "gwleidydd di-glem".

Mae gan gynghorwyr Llafur y ddinas tan 17:00 ddydd Gwener i gyflwyno'u henwebiadau ar gyfer arwain y cyngor.

Mynnodd Mr Bale nad oedd yn "gwybod unrhyw beth" am her i'w arweinyddiaeth, gan gyfaddef fodd bynnag y byddai'n hoffi aros yn y swydd.

"Mae wedi bod yn ganlyniad gwych, ac mae'n rhaid i ni gyd symud ymlaen a gwneud beth sydd orau i Gaerdydd," meddai.