Morgannwg yn colli

Jim Allenby Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Jim Allenby sgorio 144 heb fod allan, gan gynnwys 11 pedwar

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm yn erbyn Gwlad Yr Haf yn Y Cwpan Undydd yn Stadiwm Swalec o 170 o rediadau.

Roedden nhw i gyd allan am 168 ar ôl i Wlad Yr Haf sgorio 338 am dair.

Ymhlith y perfformiadau gorau oedd un cyn-gapten Morgannwg Jim Allenby - 144 pedwar heb fod allan.

Bydd yn rhaid i Forgannwg ennill y pedair gêm sy'n weddill yn y gystadleuaeth er mwyn cael unrhyw obaith o gyrraedd y rownd go-gyn derfynol.