Cyhuddo dyn o roi meddygfa ym Môn ar dân

achos lladrata Image copyright Google Maps
Image caption Mae Sion Griffiths yn cael ei gyhuddo o ladrata o feddygfa yng Ngwalchmai Uchaf a'i rhoi ar dân

Mae dyn 30 oed o Ynys Fôn wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o ladrata o feddygfa a'i rhoi ar dân.

Wnaeth Sion Griffiths o Gaergeiliog, Caergybi, ddim cyflwyno ple yn y llys yn Llandudno.

Clywodd y llys honiad fod hyn wedi digwydd mewn meddygfa yng Ngwalchmai Uchaf yn ystod yr oriau mân fore dydd Gwener.

Gwrthododd ynadon gais am fechnïaeth, ac mae'r achos wedi ei drosglwyddo i ofal Llys y Goron Caernarfon.

Mae disgwyl i Sion Griffiths fynd o flaen y llys hwnnw ar 5 Mehefin.