Abertawe 1-0 Everton

  • 6 Mai 2017
Abertawe Notts County Image copyright Rex Features
Image caption Fernando Llorente'n penio'r bêl i gefn y rhwyd

Mae gobeithion Abertawe o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dal yn fyw wedi buddugoliaeth allweddol yn erbyn Everton.

Daeth unig gôl y gêm wedi 29 munud wrth i Fernando Llorente benio'r bêl i gefn y rhwyd - trydedd-gôl-ar-ddeg y Sbaenwr y tymor hwn.

Bu bron i Alfie Mawson a'r eilydd Leroy Fer ddyblu'r fantais, ond 1 i 0 oedd y sgôr terfynol.

Ac wedi i Hull golli gartref yn erbyn Sunderland o 2 i 0 yn gynharach yn y dydd, mae'r Elyrch yn codi uwch eu pennau, ac allan o'r tri gwaelod, gyda dwy gêm o'r tymor yn weddill.