Buddugoliaethau i'r Scarlets a'r Gleision yn y Pro12

Ken Owens Keelan Giles Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Bachwr y Scarlets Ken Owens yn taclo asgellwr y Gweilch Keelan Giles

Roedd yna fuddugoliaethau i'r Scarlets a'r Gleision yng nghystadleuaeth y Pro 12 ddydd Sadwrn.

Roedd yna wledd o geisiau ar Barc y Scarlets wrth i'r tîm cartref sgorio pum cais, a churo'r Gweilch o 40 17.

Will Boyde, Steffan Evans, Aaron Shingler, Johnny McNicholl a Gareth Davies diriodd y bêl i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn y trydydd safle yn nhabl y Pro 12, ac yn paratoi i herio Leinster i ffwrdd, tra bydd y Gweilch, sy'n bedwerydd, yn teithio i Limerick i wynebu Munster.

Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Willis Halaholo'n anelu am y llinell i'r Gleision

Roedd hi'n gêm dipyn agosach rhwng y Dreigiau a'r Gleision.

Roedd yna ddau gais yr un i'r ddwy ochr - Matthew Morgan a Willis Halaholoond yn croesi i'r Gleision a Carl Meyer a Sam Beard i'r Dreigiau.

Ond llwyddodd Gareth Anscombe i gicio digon o bwyntiau i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Gleision sydd nawr yn seithfed yn nhabl y Pro12, tra bo'r Dreigiau yn 11eg.