Teyrnged teulu i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad

Mark Golubovic Image copyright Heddlu'r De/Llun teulu
Image caption Bu farw Mark Golubovic mewn gwrthdrawiad fore yn Llanhari fore dydd Sadwrn

Mae teulu dyn gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Llanhari fore Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Mark Golubovic, 32 oed, wedi i'w gar daro'n erbyn cerbyd nwyddau trwm, oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall ar Ffordd Llanari tua 08:30.

Cafodd mam Mr Golubovic, Irene, oedd yn teithio yn y car, hefyd ei hanafu'n ddifrifol ac mae'n cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Mae hyn yn dorcalon i'r teulu cyfan, ac rydym yn ceisio dod i dermau a'r drychineb sydd wedi dwyn Mark oddi wrthon ni.

"Roedd Mark yn dad a mab cariadus, ac yn ffrind i lawer.

"Mae'n meddyliau gyda ei fam, Irene, sydd yn yr uned gofal dwys yn yr Ysbyty Athrofaol."

Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i achos y gwrthrawiad, ac mae unrhyw dystion sydd ddim eto wedi siarad â'r heddlu yn cael eu hannog i gysylltu drwy ffonio 101, a dyfynu'r cyfeirnod 1700171795.