Buddugoliaeth ddramatig i Forgannwg o un rhediad

Morgannwg Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Colin Ingram 142 rhediad - record bersonol newydd iddo

Sgoriodd Colin Ingram 142 o rediadau - record newydd iddo - i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i Forgannwg dros Essex yn y Cwpan Undydd.

Gyda help Will Bragg (59) a Kiran Carlson (36) gan fwyaf, fe orffenodd Morgannwg eu batiad ar 281-7.

Ar ôl dechrau gwael i fatiad Essex, llwyddodd Alistair Cook i sefydlogi pethau gyda 37 rhediad, cyn i Varun Chopra sgorio 124 a Ravi Bopara 56.

Ond fe syrthiodd sawl wiced yn dilyn hynny ac roedd chwaraewyr Essex i gyd allan am 280-9.

Buddugoliaeth ddramatig i Morgannwg, gan atal Essex rhag ennill eu pedwaredd buddugoliaeth o'r bron yn y Cwpan Undydd.