Ched Evans yn ailarwyddo i Sheffield United

Ched Evans Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Evans wedi arwyddo estyniad o 12 mis ar ei gytundeb gyda Chesterfield ym mis Ionawr

Mae Ched Evans wedi arwyddo i'w gyn-glwb Sheffield United mewn cytundeb newydd am dair blynedd.

Roedd blaenwr rhyngwladol Cymru yn arfer chwarae i Sheffield United yn 2012 cyn iddo'i gael yn euog o dreisio menyw mewn ystafell westy yn 2011 a'i garcharu am bum mlynedd.

Cafodd y ddedfryd honno ei dileu yn dilyn achos llys newydd yn Hydref 2016 pan gafwyd Evans yn ddieuog.

Mae adroddiadau yn awgrymu fod ei gytundeb newydd, fydd yn ei weld yn gadael Chesterfield, werth tua £500,000.

Dywedodd Ched Evans: "Rwy'n dal i deimlo fod gen i lawer i brofi mewn pêl-droed ar lefel clwb a'r lefel rhyngwladol, ac rwy'n credu y gallaf wireddu hynny gyda United o flaen cefnogwyr gwych.

"Rwy'n ddiolchgar i Chesterfield - y bwrdd a'r rheolwyr - am roi cyfle i mi ddychwelyd i'r gêm, ac i'r cefnogwyr am y croeso a gefais."