Plant yn cael profi tobogan newydd £1.5m yn Eryri

Tobogan Image copyright Zip World Fforest
Image caption Rhan o drac tobogan Eryri

Bydd plant ysgolion lleol yn cael profi atyniad tobogan newydd Eryri ddydd Mawrth.

Mae trac yr atyniad £1.5m ger Betws-y-Coed yn gilometr o hyd, a does yr un atyniad tebyg yng ngweddill y DU.

Mae modd teithio ar gyflymder o 25mya ar y tobogan, ond mae cyfle i deithwyr reoli'r cyflymder wrth basio drwy ddeg tro.

Bydd yr atyniad yn agor yn swyddogol ddydd Mercher ond ddydd Mawrth mae cyfle i blant ysgol yr ardal gael mynd arno.

Cwmni Zipworld sy'n gyfrifol am yr atyniad - y cwmni sy'n gyfrifol am zipline hwyaf Ewrop uwchben chwarel y Penrhyn ym Methesda.

Image copyright Zip World Fforest