Lansio ymgyrch i ddenu mwy o nyrsys i Gymru

Vaughan Gething
Image caption Nod yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yw denu nyrsys o ar draws y byd

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i ddenu rhagor o nyrsys i weithio yng Nghymru.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, y nod yw dangos bod gan wasanaeth iechyd Cymru rhywbeth "positif a gwahanol" i'w gynnig i bobl sydd am ddilyn gyrfa fel nyrs.

I gyd-fynd â'r ymgyrch mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd bwrsari hyfforddi gwerth miloedd o bunnau yn parhau i gael ei gynnig yng Nghymru nes o leiaf 2019.

Y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r bwrsari i fyfyrwyr nyrsio yn cael ei diddymu yn Lloegr ac y byddai system fenthyciadau yn dod yn ei le.

Fel rhan o'r ymgyrch bydd nyrsys sydd eisoes wedi symud i Gymru yn adrodd eu hanes a'u profiadau.

Mae tua 30,000 o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a nhw yw'r sector fwyaf yn y gwasanaeth.

Prinder

Ond mae 'na brinder yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru yn rhybuddio bod canran sylweddol o nyrsys yn agos i oed ymddeol ac eraill yn dewis gadael oherwydd baich gwaith.

Bydd yr ymgyrch recriwtio rhyngwladol yn targedu nyrsys sydd ar ddechrau eu gyrfa ynghyd â rhai sy'n ystyried dychwelyd i'r proffesiwn.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Elina Catrin Thomas yn dweud faint o falchder sydd yn y gwaith o fod yn nyrs

Yn yr hydref cafodd ymgyrch lwyddiannus ei lansio yng Nghymru i geisio denu mwy o feddygon iau i hyfforddi yng Nghymru i fod yn feddygon teulu.

Dywedodd Mr Gething: "Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi hyfforddiant a datblygiad nyrsys, bydwragedd, a gweithwyr proffesiynol eraill.

"Mae Cymru'n wlad ddelfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddi; rydyn ni'n rhoi gwerth mawr ar farn broffesiynol nyrsys ac rydyn ni am gyfleu'r neges honno er mwyn denu mwy o nyrsys i ddod i gael blas ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.

"Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y bydd y bwrsari ar gael i'r rhai sy'n ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru, ar ôl cymhwyso, am ddwy flynedd."

Bwrsari Lloegr yn dod i ben

Y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r bwrsari yn dod i ben yn Lloegr ac y byddai system o fenthyciadau i fyfyrwyr yn dod yn ei le.

Dywedodd llefarydd ar ran adran iechyd y llywodraeth na fyddai'n addas iddyn nhw ar hyn o bryd ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru.

Ma Llywodraeth yr Alban hefyd wedi gwneud ymrwymiad i barhau i gynnig y bwrsari.

Image copyright GIG Cymru
Image caption Un o bosteri'r ymgyrch

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Yr Athro Jean White: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu buddsoddiad yn addysg nyrsys yn sylweddol gyda mwy o nyrsys yn cael eu haddysgu bob blwyddyn yn awr nag ar unrhyw adeg ers datganoli.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn addysg, yn y lefelau staffio cywir, ac yn natblygiad proffesiynol ein nyrsys.

"Mae gan Gymru lawer i'w gynnig, o'n harfordir gwych a'n mynyddoedd, i'n trefi a'n dinasoedd, ac rwyf am annog nyrsys i ystyried Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo."

'Rhwystredig'

Wrth groesawu ymgyrch mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru yn parhau i rybuddio am brinder nyrsys - yn enwedig mewn meysydd fel gofal iechyd meddwl, gofal cymunedol a gofal i famau a phlant.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, bod 18 mlynedd o lywodraeth Llafur yng Nghymru wedi arwain at "brinder meddygon a nyrsys".

"Rydym yn croesawu'r ffaith bod y Blaid Lafur yn gweithredu o'r diwedd ond mae'n rhwystredig iawn ei fod yn cymryd etholiad i gael y llywodraeth flinedig yma i wneud hynny," meddai.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns bod ei phlaid yn cefnogi'r ymgyrch, a'i bod yn gobeithio y bydd yn golygu na fydd angen defnyddio staff asiantaeth drud.