Carwyn Jones: 'Dim dilyn polisi Corbyn ar dreth incwm'

Carwyn Jones a Jeremy Corbyn
Image caption Dywedodd Carwyn Jones na fyddai'n codi cyfradd uwch y dreth incwm yng Nghymru, er ei fod yn un o bolisïau Jeremy Corbyn

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud na fyddai'n codi treth incwm pan fydd yn cael ei ddatganoli i Gymru.

Daw hynny er i Blaid Lafur y DU ddweud y bydd yn rhaid i'r rheiny sydd ar gyflogau uwch dalu mwy o dreth os yw Jeremy Corbyn yn brif weinidog.

Dywedodd y canghellor cysgodol John McDonnell y byddai'r rheiny ar dros £80,000 yn talu "ychydig bach mwy" er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus.

Bydd Cymru'n cael y pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm o 10c ym mhob band treth o fis Ebrill 2019.

Hamilton yn herio

Llynedd fe wnaeth maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad addo peidio codi treth incwm yn y tymor Cynulliad nesaf.

Yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, fe wnaeth arweinydd y grŵp UKIP, Neil Hamilton ddweud fod "Llafur yn genedlaethol mae'n debyg yn sefyll ar bolisi o gynyddu'r gyfradd uwch o dreth incwm o 45c i 50c".

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n sefyll o blaid sicrhau fod y rheiny oedd yn gallu fforddio talu mwy yn gwneud hynny, er mwyn sicrhau'r gwasanaethau cyhoeddus roedd pobl yn ei ddisgwyl.

Image caption Cafodd y cwestiwn ei godi yn y siambr gan arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton

Mewn ymateb dywedodd Mr Hamilton: "Rwy'n cymryd felly o'r ateb yna mai polisi Llywodraeth Cymru nawr, pan fydd pwerau treth yn cael eu datganoli i'r Cynulliad, yw dilyn maniffesto'r blaid Lafur yn genedlaethol o gynyddu'r gyfradd uwch o dreth yng Nghymru.

"Achos mae'r dystiolaeth o'r tro diwethaf i hyn ddigwydd yn 2013 oedd bod lleihau'r gyfradd dreth o 50c i 45c wedi arwain at gynnydd anferth o £8bn mewn incwm."

Dywedodd y Prif Weinidog: "Cyn belled ag y mae cyfradd Gymreig y dreth incwm yn y cwestiwn rydyn ni eisoes wedi addo na fyddwn ni'n cynyddu cyfradd y dreth incwm yn ystod y tymor Cynulliad yma."

Lleihau trethi?

Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydden nhw'n edrych ar y posibilrwydd o gynnydd mewn trethi, a hynny wedi ei warchod er mwyn talu am iechyd a gofal cymdeithasol, pan fydd y gyfradd yn cael ei ddatganoli.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am dorri'r gyfradd uchaf a'r gyfradd sylfaenol, ac mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi awgrymu cwtogi'r gyfradd sylfaenol pan fydd y grym yn dod i Gymru.

Bydd datganoli treth yn golygu fod gan weinidogion yng Nghymru bŵer dros tua 20% o'r arian sydd ar gael iddyn nhw ei wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Ond byddai'r rhan fwyaf o'u cyllid - sydd ar hyn o bryd tua £15bn y flwyddyn - yn parhau i ddod o grant bloc blynyddol o'r Trysorlys.