Band pres o Gymru yn cofio'r Ail Ryfel Byd yn Rwsia

  • 9 Mai 2017
Band Pres Symffonig Cymru

Fe fydd band pres o Gymru yn perfformio mewn gorymdaith yn Rwsia i gofio am yr Ail Ryfel Byd.

Bydd Band Pres Symffonig Cymru yn ymuno â miloedd o bobl ar yr orymdaith heibio'r Kremlin ym Moscow yn ystod dathliadau ddydd Mawrth.

Mae'r orymdaith flynyddol yn nodi buddugoliaeth yr Undeb Sofietaidd dros yr Almaen Natsïaidd yn 1945.

Y gred yw mai dyma'r band cyntaf o du allan i Rwsia i gael gwahoddiad i gymryd rhan.

Dywedodd chwaraewr cornet yn y band, Alexandra Humphreys, y bydd y digwyddiad yn un "emosiynol iawn".

Image caption Milwyr Rwsia yn morio canu yn ystod gorymdaith 2016

Dywedodd Ms Humphreys, sy'n cyflwyno rhaglen Ffeil ar S4C, wrth BBC Cymru fod aelodau o'r band wedi cael cais i anfon lluniau o aelodau o'u teuluoedd a gollodd eu bywydau yn y rhyfel, ar gyfer eu harddangos ar bosteri yn ystod yr orymdaith.

"Fe anfonais i lun o'm hen-ewythr Arthur, a fu farw yn ystod y rhyfel.

"Roedd yn eithaf emosiynol oherwydd dydw i erioed wedi gweld llun ohono o'r blaen, hyd nes ychydig wythnosau cyn i mi ddod i Rwsia," meddai.

Bydd yr orymdaith ar y Sgwâr Coch, yn cynnwys 10,000 o filwyr.