Yr ymgyrchydd canser Irfon Williams wedi marw yn 46 oed

  • 31 Mai 2017
irfon

Mae'r ymgyrchydd canser a sylfaenydd ymgyrch Hawl i Fyw, Irfon Williams, o Fangor, wedi marw yn 46 mlwydd oed.

Roedd yn wyneb a llais cyfarwydd yng Nghymru ers iddo gael diagnosis o ganser y coluddyn ym mis Ionawr 2014.

Penderfynodd nad oedd am ddioddef o'r cyflwr yn dawel, ac fe aeth ati i sefydlu ymgyrch Tîm Irfon i gefnogi cleifion canser yn y gogledd.

Y nod oedd codi arian i Apêl Awyr Las i dalu am wigiau, triniaethau amgen a chefnogaeth iechyd meddwl i gleifion canser.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd Y Bala ym mis Mai 2014, gyda digwyddiad wedi ei drefnu lle'r oedd pawb yn gwisgo wigiau i godi ymwybyddiaeth.

Mae'r ymgyrch wedi codi dros £150,000 erbyn hyn, gyda channoedd o bobl wedi gwneud pob mathau o bethau i godi arian.

Bu Irfon yn destun rhaglen arbennig fel rhan o'r gyfres 'O'r Galon' ar S4C yn ddiweddar, pan fu'r camerâu yn dilyn ei deulu dros y blynyddoedd diwethaf.

Image caption Roedd Irfon yn briod â Rebecca, ac yn dad i bump o blant

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei wraig Rebecca Williams fod ei gŵr wedi wynebu ei salwch gyda dewrder ag urddas.

Ychwanegodd nad oedd byth yn cwyno am ei sefyllfa ac fe "ddefnyddiodd ei sefyllfa i fod o gymorth i eraill".

"Gwthiodd ei gorff i'w ffiniau er mwyn derbyn unrhyw driniaeth fyddai'n prynu cymaint o amser ag oedd yn bosib," meddai.

"Roedd pob eiliad yn cyfrif i Irfon oedd yn llawn bywyd ag i unrhyw un oedd yn ei adnabod roedd Irfon yn gymaint o hwyl pan roedd o gwmpas."

'Colled fawr ar ei ôl'

Wrth ymateb i'w farwolaeth, dywedodd Dr Peter Higson a Gary Doherty, cadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Roedd Irfon Williams, oedd yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd fel nyrs a rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, yn gydweithiwr gwerthfawr fydd yn cael ei gofio am ei ddewrder a'i agwedd benderfynol at fyw bywyd yn llawn.

"Roedd yn angerddol am ddarparu'r gofal gorau i gleifion ac fe gafodd ei gyfraniad ei nodi gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru, gan ennill gwobr Plant a Bydwreigiaeth yn 2012.

"Fe wnaeth Irfon gyfraniad anferth i gael cleifion i ymwneud mwy gyda'u triniaeth a hybu iechyd meddwl i bawb.

"Roedd yn hynod o benderfynol drwy gydol ei salwch, gan sefydlu #tîmirfon gydag Awyr Las, elusen Gwasanaeth Iechyd Gogledd Cymru, gan godi dros £150,000 ac fe fyddwn a miloedd o gleifion yn ddyledus iddo am hyn am byth.

"Bydd colled fawr ar ei ôl. Ar ran y bwrdd iechyd rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Irfon a'i gylch eang o ffrindiau."

Elusen

Dywedodd Claudia McVie, prif weithredwraig elusen Tenovus: "Mae pawb yn Tenovus wedi eu tristau o glywed y newyddion am farwolaeth Irfon Williams.

"Ar ôl iddo deithio i Loegr i dderbyn y driniaeth canser yr oedd angen arno, fe weithiodd Irfon yn ddiflino i wneud hi'n decach i gleifion canser yng Nghymru i gael cyffuriau canser.

"O ganlyniad i'w ymgyrchu, gall cleifion yng Nghymru dderbyn y cyffur Cetuximab ar gyfer triniaeth canser y coluddyn - sy'n rhodd i fod yn falch iawn ohoni."

Image caption Daeth nifer o artistiaid amlwg Cymru at ei gilydd i recordio fersiwn newydd o'r gân Hawl i Fyw fel rhan o'i ymgyrch

Gyrfa

Roedd Irfon Williams yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd iechyd meddwl, ac roedd yn rheolwr gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn iddo gael ei daro'n wael.

Tra roedd yn sâl fe sefydlodd gwmni Hanner Llawn i roi cyngor a chefnogaeth i bobl ar agweddau iechyd meddwl.

Dywedodd fod ei gefndir wedi ei helpu o a'i deulu i ymdopi yn ystod ei salwch.

Roedd yn defnyddio ei brofiadau yn ei waith bob dydd i addysgu eraill am ei gyflwr, a chafodd ei wahodd i nifer fawr o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth a thrafod effaith canser ar gleifion ar draws y gogledd.

Triniaeth

Ddyddiau ar ôl ei ddiagnosis fe briododd Irfon â'i bartner, Rebecca, gan fod y ddau eisiau wynebu'r siwrne o'u blaenau fel pâr priod.

Fe ddechreuodd ei driniaeth canser yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd, ac yn ystod y cyfnod yma, daeth ei ymgyrch i gael yr hawl i dderbyn y cyffur Cetuximab i sylw'r cyfryngau cenedlaethol, gan nad oedd y cyffur ar gael i gleifion yng Nghymru ar y pryd.

Bu'n rhaid iddo symud ei driniaeth i Loegr er mwyn cael y cyffur, ac fe fu'n ddigon llwyddiannus i leihau'r tiwmorau gan olygu iddo allu derbyn llawdriniaeth i'w tynnu nhw ym Medi 2015.

Fe glywodd yn ddiweddarach y flwyddyn honno ei fod yn glir o ganser, ond ychydig cyn y Nadolig y llynedd daeth y newydd fod y canser yn ei ôl ac nad oedd gwellhad y tro hwn.

Drwy gydol ei salwch, bu'n siarad yn ddewr ac agored am ei brofiad.

Image copyright Twitter

Fe gafodd ei achos sylw yn ystod un o sesiynau holi'r Prif Weinidog yn San Steffan, wrth i wleidyddion drafod yr hawl i gleifion dderbyn y Cetuximab yng Nghymru.

Yn ddiweddarach cafodd wahoddiad i fod yn aelod o banel yn adolygu'r broses o ymgeisio am feddyginiaethau sydd ddim wedi eu cymeradwyo gan y gwasanaeth iechyd.

Ddechrau mis Mai daeth y cyhoeddiad fod Irfon ymhlith y bobl fydd yn cael eu hanrhydeddau gan Orsedd y Beirdd, wedi i'r sefydliad benderfynu ei urddo gyda'r Wisg Las yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni.

Bydd yn cael ei gofio am ei ymgyrchu brwd dros hawliau cleifion canser, ac am ei allu i edrych ar yr ochr gadarnhaol o fywyd waeth pa heriau yr oedd yn ei wynebu.

Mae'n gadael ei wraig Rebecca, a phump o blant.