Achub teulu ar ôl i gannwyll gynnau tân yn Y Rhyl

  • 10 Mai 2017
rhyl Image copyright Google

Mae pedwar o blant a dynes wedi eu hachub o dân gafodd ei achosi gan gannwyll mewn tŷ yn Sir Ddinbych.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Sandringham Avenue, Y Rhyl, am tua 03:30 fore Mercher, wedi adroddiadau o dân mewn ystafell wely yn yr adeilad.

Ni chafodd unrhyw un anafiadau sy'n bygwth bywyd.

Cafodd y plant a'r ddynes eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ar gyfer archwiliadau.