Y Gymraeg yn Efrog Newydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y Gymraeg yn Efrog Newydd

12 Mai 2017 Diweddarwyd 12:08 BST

Mae gwersi Cymraeg yng nghanol dinas Efrog Newydd yn profi'n boblogaidd iawn.

Dr Kate Phillips ydy arweinydd y dosbarthiadau wythnosol - un o ddau sydd bellach yn bodoli yn y ddinas - sy'n cael eu cynnal ym mwyty Cantre'r Gwaelod yn ardal Brooklyn.

Ymhlith y disgyblion chwilfrydig mae Shruti Kulkarni, 25, sy'n wreiddiol o Texas ac sydd ddim â chysylltiad â Chymru o gwbl.

Aeth Sioned Wyn i holi'r ddwy ar ran Cymru Fyw.