Gareth Bale a Real Madrid yn cyrraedd Caerdydd

Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Mae Gareth Bale wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr ddwywaith o'r blaen

Bydd Caerdydd yn croesawu Gareth Bale a Real Madrid i'r brifddinas mewn llai na mis wedi iddyn nhw sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Yr Eidalwyr, Juventus oedd y tîm cyntaf i sicrhau eu lle yn y ffeinal ar ôl curo Monaco o 4-1 ar gyfanswm goliau ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Real drechu clwb arall o brifddinas Sbaen, Atlético Madrid o 4-2 ar gyfanswm goliau nos Fercher.

Bydd y rownd derfynol - digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yn 2017 - yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin.

Mae'r trefnwyr eisoes wedi rhybuddio y bydd y brifddinas "yn brysurach nag erioed" ar ddiwrnod y gêm, gyda disgwyl i hyd at 170,000 o gefnogwyr deithio i'r ddinas.

Image copyright Cyngor Caerdydd
Image caption Bydd Gŵyl y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal am bedwar diwrnod ym Mae Caerdydd fel rhan o ddathliadau'r rowndiau terfynol

Stadiwm Principality, fydd wedi'i ailenwi yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru oherwydd noddwyr, fydd yn cynnal y digwyddiad.

Bydd ffeinal y merched hefyd yn cael ei chynnal yn y brifddinas, yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Iau, 1 Mehefin

Dau dîm o Ffrainc - Lyon a Paris Saint-Germain - sydd yn y rownd derfynol.