Middlesex yn trechu Morgannwg yn y Cwpan Undydd

Steven Finn Image copyright Getty Images
Image caption Fe gymrodd Steven Finn bedair wiced bwysig i Middlesex

Bowliwr cyflym Lloegr, Steven Finn wnaeth arwain y ffordd i Middlesex wrth iddyn nhw drechu Morgannwg o 16 rhediad yn y Cwpan Undydd.

Roedd gan Middlesex le i ddiolch i'w capten, James Franklin, wnaeth sgorio orau i'r tîm cartref gyda 54, wrth iddyn nhw gyrraedd sgôr o 243.

Ond bu bron i Colin Ingram ennill y gêm i'r sir o Gymru gan gymryd pedair wiced a sgorio 53 rhediad.

Roedd yr ymwelwyr wedi brwydro 'nôl yn erbyn bowlio Finn, cyn i Ryan Higgins gymryd wicedi olaf pwysig Morgannwg.

Sgôr terfynol:-

Middlesex - 243 (48.4 pelawd)

Morgannwg - 227 (48.3 pelawd)