Ymchwilio i ladrad ciw snwcer y Cymro Matthew Stevens

Stevens
Image caption Mae Stevens wedi bod yn defnyddio'r ciw ers troi'n broffesiynol

Mae'r heddlu yn ymchwilio i ladrad ciw snwcer y cyn bencampwr o Gymru, Matthew Stevens.

Cafodd y ciw, y mae Stevens wedi bod yn ei ddefnyddio ers troi'n broffesiynol yn 1994, ei ddwyn o gar y chwaraewr.

Dyma oedd y ciw ddefnyddiodd Stevens, 39, i ennill pencampwriaethau'r Masters yn 2000 a Prydain yn 2003.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r lladrad, ddigwyddodd rhwng 20:00 ddydd Sul a 08:30 ddydd Llun ar Gilbert Crecsent yn Llanelli.

Mae Stevens wedi cynnig gwobr am y ciw, oedd mewn cas du gyda'r gair MAXIMUS mewn aur arno.