Diflaniad dynes: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

Tracey Kearns Image copyright Heddlu'r Gogledd
Image caption Tydi Tracy Kearns heb gael ei gweld ers dydd Sul, 7 Mai

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn 48 oed ar amheuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â diflaniad dynes o Sir Conwy.

Tydi Tracy Kearns o Fae Cinmel ger y Rhyl heb gael ei gweld ers dydd Sul, 7 Mai ac mae'r Heddlu wedi arestio dyn o Fae Cinmel sydd yn ei hadnabod.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Sian Beck o Heddlu'r Gogledd: "Tydi Tracey dal heb gael ei darganfod ac rydym yn apelio am wybodaeth o'i symudiadau ar ôl 20:00 ddydd Sul, 7 Mai."

Mae'r Heddlu'n apelio am unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.