Sunderland 0-2 Abertawe

  • 13 Mai 2017
Fernando Llorente Image copyright Getty Images
Image caption Fernando Llorente yn dathlu sgorio gôl gyntaf Abertawe wedi naw munud

Mae Abertawe wedi cymryd cam enfawr tuag at aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn Sunderland ddydd Sadwrn.

Er i Abertawe ddechrau'r gêm ychydig yn nerfus, sgoriodd Fernando Llorente i'r Elyrch wedi naw munud gyda'i ysgwydd yn dilyn croesiad Gylfi Sigurdsson i'r cwrt cosbi.

Llwyddodd Abertawe i reoli gweddill yr hanner cyntaf ac ychydig eiliadau cyn yr egwyl fe sgoriodd yr amddiffynnwr Kyle Naughton ei gôl gyntaf ers mis Mawrth 2011 i ddyblu'r fantais.

Prin iawn oedd cyfleodd Sunderland i sgorio wrth i Lukasz Fabianski gael prynhawn tawel yn y gôl i'r Elyrch.

Gydag awr wedi mynd roedd chwaraewyr Sunderland yn hawlio cic o'r smotyn wrth i gic rydd Seb Larson daro braich Sigurdsson, ond ni lwyddodd protestiadau'r tîm cartref ddylanwadu ar y dyfarnwr.

'Un gêm yn weddill'

Gyda nifer o gefnogwyr Sunderland yn gadael yn gynnar, roedd y 3,000 o gefnogwyr Abertawe oedd wedi teithio i ogledd ddwyrain Lloegr yn dilyn caredigrwydd y chwaraewyr yn talu am eu tocynnau yn parhau i ganu'n uchel.

Doedd dim pwysau ar Abertawe i sgorio eto yn yr ail hanner ac er mor brin oedd cyfleodd Sunderland, llwyddodd yr Elyrch i amddiffyn yn gadarn a sicrhau tri phwynt hynod o werthfawr.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe bedwar pwynt yn glir o Hull City sydd yn y safleoedd cwymp, ond mae Hull yn chwarae yn erbyn Crystal Palace ddydd Sul.

Gyda dim ond un gêm yn weddill o'r tymor ar ddiwedd y penwythnos hwn, os bydd Hull yn colli yn erbyn Crystal Palace ddydd Sul yna bydd lle Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf yn saff.