Real Madrid yn ansicr o ffitrwydd Gareth Bale

Gareth Bale Image copyright Reuters
Image caption Tydi Bale heb chwarae ers rhwygo cyhur yn ei goes ar 23 o Ebrill tra'n chwarae i'w glwb yn erbyn Barcelona.

Gydag ond tair wythnos nes rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd , mae Real Madrid wedi dweud nad ydyn nhw'n siŵr pryd fydd Gareth Bale yn dychwelyd o anaf.

Tydi ymosodwr Cymru heb chwarae ers rhwygo cyhyr yn ei goes ar 23 o Ebrill wrth chwarae i'w glwb yn erbyn Barcelona.

Dywedodd rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane: "Mae rhaid i ni fynd o ddiwrnod i ddiwrnod am y tro. Tydi Gareth ddim gyda ni ar hyn o bryd a dydw i ddim yn gwybod pryd y bydd yn dychwelyd, ond dwi'n gobeithio bydd nol yn fuan," meddai.

Bydd Real Madrid yn wynebu Juventus yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar 3 Mehefin.