Bangor 1-0 Met Caerdydd

  • 13 Mai 2017
Uwch Gynghrair Cymru

Bangor fydd y trydydd tîm o Uwch Gynghrair Cymru i chwarae yng Nghynghrair Europa tymor nesaf yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Met Caerdydd ddydd Sadwrn.

Ar eu tomen eu hunain llwyddodd Bangor i ennill y gêm o 1-0 diolch i ergyd Dean Rittenberg ar ôl 31 o funudau.

Yn yr ail hanner fe sgoriodd Adam Roscrow i'r ymwelwyr, ond yn ôl y dyfarnwr roedd wedi llawio'r bêl wrth geisio ei rheoli.

Llwyddodd Bangor i oroesi'r pwysau cynyddol gan y myfyrwyr ym munudau olaf y gêm i sicrhau eu lle gyda'r Bala a Chei Connah yng Nghynghrair Europa ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru eleni, Y Seintiau Newydd, hefyd yn chwarae yn Ewrop tymor nesaf yng Nghynghrair y Pencampwyr.