Heddlu'r Gogledd yn canfod corff dynes

heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi canfod corff dynes a bod dyn yn parhau i gael ei holi mewn cysylltiad â diflaniad dynes o Sir Conwy.

Tydi Tracy Kearns o Fae Cinmel ger y Rhyl heb gael ei gweld ers dydd Sul, 7 Mai.

Mae'r Heddlu wedi cadarnhau bod dyn 48 oed o Fae Cinmel sydd yn ei hadnabod wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau i gael ei holi yng ngorsaf yr Heddlu yn Llanelwy.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Mark Pierce: "Fe allai gadarnhau bod corff wedi ei ddarganfod yn gynharach ddydd Sadwrn ac mae ymchwiliadau'n parhau.

"Mae post mortem yn cael ei gynnal a tydi'r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol eto", meddai.