'Holl gleifion canser angen gweithiwr allweddol'

  • 12 Mai 2017
claf

Mae rhai cleifion canser yng Nghymru yn dweud eu bod dal heb dderbyn cefnogaeth gan weithiwr allweddol i gydlynu eu gofal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2010 y dylai byrddau iechyd sicrhau bod gweithwyr allweddol yn eu lle erbyn diwedd mis Mawrth 2011.

Ond mae nifer o gleifion canser ar draws y wlad wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydynt wedi derbyn unrhyw gefnogaeth gan weithiwr allweddol.

Dywedodd un claf, Nick Phillips ei bod wedi "cymryd misoedd i siarad ag unrhyw un".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y gwasanaethau wedi "dechrau'n gadarnhaol".

Dim cyswllt

Yn 2010, dywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart, y byddai cyflwyno gweithwyr allweddol yn golygu y byddai cleifion canser yn gwybod gyda phwy i gysylltu unrhyw adeg yn ystod eu triniaeth.

"Rwy'n gweld y gwaith o ddatblygu rôl gweithiwr allweddol yn ganolog i wella gofal gan fod llawer o gleifion canser yn teimlo fel unwaith y byddant wedi gorffen eu prif driniaeth, boed hynny yn llawdriniaeth, radiotherapi neu gemotherapi, eu bod yn cael eu gadael," meddai.

Ond dywedodd Mr Phillips, sydd o Bontypridd, nad oedd wedi clywed gan yr un gweithiwr allweddol, er gwaethaf y ffaith iddo gael diagnosis o ganser y brostad ym mis Ionawr 2016.

Image caption Mae Nick Phillips yn dioddef o ganser ers Ionawr 2016

Dywedodd y claf 59 oed, sy'n rhedeg elusen canser o'i gartref: "Nid wyf wedi clywed am unrhyw un yn yr ardal yma sydd wedi cael gweithiwr allweddol, rhywun y gallech ei ffonio ar ôl cael diagnosis, er mwyn cael cefnogaeth a gwybodaeth."

Mae Mr Phillips wedi cael cemotherapi a radiotherapi, ond yn dweud na all wella, dim ond ei reoli yn unig oherwydd ei fod wedi lledaenu.

"Fe fyddai gweithiwr allweddol wedi newid fy mhrofiad.

"Pan oeddwn angen unrhywbeth, a ddim yn gwybod lle i droi, byddai gweithiwr allweddol wedi gallu fy arwain i'r cyfeiriad cywir ac wedi gallu fy helpu. Mae'n cymryd misoedd i siarad gydag unrhyw un," meddai.

"Mae'n hanfodol bod pob claf canser yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth gan weithiwr allweddol cyn gynted a sydd bosib wedi'r diagnosis."

Image copyright Thinkstock

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Cynllun Cyflawni Canser wedi eu diweddaru.

"Maent yn ymrwymo gwasanaethau canser i ddarparu cefnogaeth i bob person sy'n cael eu heffeithio gan ganser, gan roi enw a manylion cyswllt gweithwyr allweddol dynodedig.

"Dangosodd yr adroddiad profiad cleifion canser yn 2014 fod y gwasanaethau wedi gwneud dechrau cadarnhaol gyda 66% o bobl oedd yn dioddef o effaith canser yn adrodd eu bod wedi cael cefnogaeth gan weithiwr allweddol.

"Rydym yn gobeithio gweld hyn yn gwella pan fydd adroddiad 2016 yn cael ei gyhoeddi."

'Problem data'

Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC mae dal gormod o bobl sydd ddim yn gallu gweld gweithiwr allweddol.

"Pan fyddwn yn tynnu sylw at hyn, ac yn gofyn pam nad yw'r addewid wedi ei gyflawni, maent yn dweud 'fod pawb wedi cael gweithiwr allweddol', ond fod problem wedi bod yn cofnodi'r data.

"Mae achos Nick Phillips yn profi'n glir i'r gwrthwyneb, ac mae'n dangos unwaith eto y bwlch rhwng rhethreg llywodraeth Lafur a'r realiti sy'n wynebu cleifion."

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Angela Burns AC: "Fe ddywedodd gweinidogion yn 2010 fod gweithwyr allweddol yn ganolog i wella gofal canser - efallai fod eu barn wedi newid.

"Naill ffordd neu'r llall, mae gan gleifion canser sy'n gwella, yr hawl i wybod pryd y gallant ddisgwyl i lywodraeth Lafur ddarparu'r lefel o ofal sydd ei angen arnynt.

"Mae'r ffaith nad ydynt wedi gwneud hyn eisoes yn dangos esgeulustod anfaddeuol, gan fod gan bobl Cymru bob hawl i dderbyn gwasanaethau o safon gan y GIG."