Gareth Anscombe yn arwyddo cytundeb deuol newydd

Gareth Anscombe Image copyright Getty Images

Mae Gareth Anscombe wedi arwyddo cytundeb deuol newydd gyda Gleision Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru.

Fe laniodd y maswr 26 oed yng Nghymru yn 2014, ac ers hynny mae wedi ymddangos 43 gwaith dros y Gleision, gan sgorio 337 o bwyntiau.

Fe wnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae wedi mynd ymlaen i ennill naw cap dros Gymru.

Yn gynharach yn yr wythnos cafodd Anscombe ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith yr haf yma.

Cafodd Anscombe ei eni yn Seland Newydd, ond roedd yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei fam, sy'n dod o Gaerdydd.

'Gobeithio cyfrannu mwy'

Dywedodd rheolwr Cymru, Warren Gatland ei bod yn "grêt" gweld Anscombe yn arwyddo cytundeb newydd, gan "ymrwymo ei ddyfodol i'r gêm yng Nghymru".

Ychwanegodd Anscombe: "Dim ond ar ddechrau fy ngyrfa ryngwladol yw i, a gobeithio y gallaf gyfrannu llawer mwy yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae Cymru nawr yn teimlo fel adref - mae'r hogiau wedi bod yn rhan fawr o hynny ac rydw i a fy mhartner yn teimlo'n sefydlog iawn yma yng Nghaerdydd."