Stephen Jones yn tynnu 'nôl o daith haf Cymru

  • 12 Mai 2017
Stephen Jones Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi na fydd eu hyfforddwr olwyr, Stephen Jones yn rhan o dîm hyfforddi Cymru ar gyfer taith yr haf.

Jones yw'r ail hyfforddwr i benderfynu peidio mynd ar y daith, yn dilyn hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson.

Dywedodd Jones ei fod wedi tynnu 'nôl o'r daith oherwydd ei waith gyda'r Scarlets yn y Pro12.

Bydd Cymru'n herio Tonga yn Auckland ar 16 Mehefin a Samoa yn Apia wythnos yn ddiweddarach.

Mae'r Scarlets yn herio Leinster yn rownd gynderfynol y Pro12 ar 19 Mai ar ôl gorffen yn drydydd yn y gynghrair.

Pe bydden nhw'n ennill honno, fe fyddan nhw'n herio un ai Munster neu'r Gweilch yn y rownd derfynol yn Stadiwm Aviva yn Nulyn ar 27 Mai.

'Blaenoriaeth i'r Scarlets'

"Roedd yn anrhydedd cael fy enwi'n rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer y daith ac rwy'n ddiolchgar i Robin [McBryde] am roi'r cyfle yna i fi," meddai Jones.

"Ar ôl dweud hynny ry'n ni, fel rhanbarth, mewn safle i frwydro am dlws ar ddiwedd y tymor ac mae'n rhaid i'r Scarlets gael blaenoriaeth.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r tîm hyfforddi, a'r chwaraewyr, yn y gemau prawf ond rwy'n edrych ymlaen hefyd at yr wythnosau nesaf gyda'r Scarlets wrth i ni wthio am le yn y rownd derfynol."

Hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde fydd y prif-hyfforddwr ar gyfer y daith, gyda Warren Gatland a Rob Howley gyda'r Llewod.

Dywedodd McBryde ei fod yn "siomedig ein bod ni'n colli allan ar y cyfle i weithio gyda'n gilydd" ond ei fod yn parchu ei benderfyniad ac yn "dymuno pob llwyddiant iddo a'r rhanbarth dros yr wythnosau nesaf".