'Anghofio pwysigrwydd cyfieithu'r Llyfr Gweddi Gyffredin'

comp
Image caption William Salesbury - 'un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg'

450 mlynedd yn ôl ym mis Mai cafodd y Llyfr Gweddi Gyffredin ei gyfieithu i'r Gymraeg ond "tueddwn i anghofio pwysigrwydd ac arwyddocâd y digwyddiad", medd yr ysgolhaig E. Wyn James o Gaerdydd.

Meddai: "Mae llawer dros y blynyddoedd wedi pwysleisio pa mor bwysig i barhad y Gymraeg oedd cyfieithu'r Beibl, ac mae hynny'n gwbl gywir.

"Ond tueddwn i anghofio pwysigrwydd cyfieithu'r Llyfr Gweddi Gyffredin.

"Roedd Deddf 1563 nid yn unig wedi gorchymyn cyfieithu'r Llyfr Gweddi i'r Gymraeg, ond roedd hefyd wedi deddfu fod gwasanaethau'r llyfr hwnnw i'w defnyddio yn y Gymraeg ym mhob man lle'r oedd hi'n iaith arferol y bobl - sef yn y rhan fwyaf o Gymru ar y pryd, ynghyd â rhannau o'r Gororau.

Image copyright Gwasg Prifysgol Cymru

"Roedd hyn, cofiwch, mewn cyfnod pan oedd yr Eglwys Anglicanaidd yn Eglwys Wladol yng Nghymru, a phan oedd disgwyl i bawb drwy'r wlad fynychu ei gwasanaethau.

"Yr hyn a wnaeth Deddf 1563, felly, oedd nid yn unig roi statws swyddogol i'r Gymraeg fel iaith crefydd, ond hefyd beri fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a'i defnyddio'n gyhoeddus yn gyson, bob wythnos, o Fôn i Fynwy."

Cafodd y cyfieithiad Cymraeg o'r Llyfr Gweddi ei gyhoeddi ddechrau mis Mai 1567, bedwar cant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Am fod y Salmau'n rhan mor bwysig o'r addoliad eglwysig, cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg o'r Salmau yr un pryd - gwaith William Salesbury, un o "gymwynaswyr mwyaf y Gymraeg".

Ychwanegodd Y Parchedig Ddoethor Adrian Morgan sydd wedi gwneud gwaith ymchwil ar salmau Edmwnd Prys: "Yn 1567, y Llyfr Gweddi oedd y cyfrwng y byddai pobl Cymru yn ei ddefnyddio er mwyn addoli mewn eglwysi ar hyd a lled y wlad.

"Oherwydd y cyfieithiad newydd roedd modd i bobl addoli yn eu hiaith eu hunain ac enillodd yr iaith barch a statws newydd.

"Mae'n hawdd dadlau mai cyfieithiad William Salesbury a sicrhaodd ddefnydd swyddogol a chyhoeddus i'r Gymraeg am y tro cyntaf o fewn y wladwriaeth."

Yr unig gopi cyflawn o Lyfr Gweddi Gyffredin 1567 sydd wedi goroesi, mae'n debyg, yw'r un yn Llyfrgell John Rylands ym Manceinion.

Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru gopi ffotograffig o'r copi hwnnw yn 1965.

Mae modd gwrando ar rifyn arbennig o Caniadaeth y Cysegr lle cyfeiriodd E. Wyn James am bwysigrwydd cyfieithu'r Llyfr Gweddi Gyffredin a' r Salmau.