Cynghorydd yn gwadu 'dweud celwydd' am fosg Ahmadi

  • 13 Mai 2017
Cllr Ali Ahmed Image copyright Cardiff Council

Mae cynghorydd yng Nghaerdydd wedi cael ei gyhuddo o "ddweud celwydd wrth bwyllgor cynllunio" fel bod cynlluniau ar gyfer mosg i sect Fwslimaidd yn cael eu gwrthod.

Ar Fawrth 15 fe wrthododd y cyngor y cynlluniau ar Ffordd Sanatorium, Treganna oherwydd pryderon am draffig.

Dywedodd y Cynghorydd Ali Ahmed bod gan y ddinas "filoedd" o Fwslimiaid Ahmadi ond mae'r nifer yn llai na 150. Honnodd hefyd bod y grŵp yn gallu gweddïo mewn mosgiau eraill.

Dywedodd Mr Ahmed nad oedd wedi "camarwain neb" ac nad oedd e'n ymwybodol o unrhyw "rwyg".

Yr hyn oedd e'n ei feddwl dywedodd oedd bod miloedd o Fwslimiaid "yn gyffredinol yng Nghaerdydd" ac fe ychwanegodd: "Dwi i ddim yn ymwybodol o unrhyw rwygiadau [rhwng grwpiau Mwslimaidd]. Ers y cyfarfod rwyf wedi dod ychydig yn ymwybodol o hyn."

Ond mae cyn gynghorydd Gogledd Llandaf, Sue White, yn honni bod Mr Ahmed wedi camarwain y pwyllgor yn fwriadol: "Roedd 'na gelwydd wedi'i ddweud wrth y pwyllgor ynglyn â 'miloedd' o Fwslimiaid a allai fod yn mynychu gwasanaethau pan, mewn gwirionedd, dyw nifer y gymuned Ahmadi yng Nghaerdydd ond yn 150."

Mae'r gymuned Ahmadi yn dweud ei bod wedi wynebu anffafriaeth yng Nghaerdydd. Ym Mhacistan honnir nad ydynt yn Fwslimiaid am nad ydynt yn credu mai'r proffwyd Muhammad oedd y proffwyd olaf.

Pan ofynnwyd i Lywydd Cymdeithas Mwslimiaid Ahmadi Caerdydd, Dr Ata ur Rehman Mazz, a oedd e'n credu fod y pwyllgor wedi'i gamarwain, dywedodd: "Does na ddim canlyniad arall dwi'n ofni."

Image caption Mae'r gymuned yn cyfarfod i addoli mewn hen swyddfa ar Ffordd Sanatorium yn Nhreganna

Bwriad Mwslimiaid Ahmadi oedd ychwanegu meindwr, cromen, lle byw i'r Imam - eu harweinydd, neuadd gymuned un llawr a lle parcio i'r cyn-swyddfeydd.

Ym Mawrth 2015, rhoddodd cyngor Caerdydd sêl bendith i gais a oedd yn gofyn am newid y swyddfeydd o fusnes i "sefydliad di-breswyl."

Dyma'r ail dro i'r cyngor wrthod cais i ehangu.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd nad oedd y cais yn trafod y traffig ychwanegol a fyddai'n deillio o'r datblygiad.

Dywedodd Dr Maaz na fyddai'r traffig yn cynyddu gan bod y grŵp eisoes yn addoli yno: "Mae'n fosg yn barod, dyma lle ry'n ni'n cyfarfod i weddïo. Heb feindwr na chromen 'dyw e ddim yn edrych yn debyg i fosg."

Ychwanegodd bod nifer y rhai a oedd yn mynd yno rhwng 20 a 30.

Image copyright @SueWhite2014/Twitter
Image caption Cyhuddodd cyn-gynghorydd Gogledd Llandaf, Sue White, Mr Ahmed o ddweud celwydd wrth y pwyllgor

Yn ystod y pwyllgor cynllunio, dywedodd Mr Ahmed wrth y swyddog cynllunio: "Fe ddywedoch chi mai dim ond 144 oedd yng Nghaerdydd a dwin'n poeni braidd. O ran fy ngwybodaeth i mae miloedd ohonyn nhw. A fyddai modd i chi roi eglurhad ar hyn? Oes gennych fwy o wybodaeth?"

Dywedodd y swyddog cynllunio bod y wybodaeth a oedd yn cefnogi'r cais yn dweud mai dim ond 144 Mwslim Ahmadi oedd yn yr ardal a bod yna wahaniaethau athrawiaethol rhyngddyn nhw â chredoau Mwslimiaid eraill ac felly nad oedd modd rhannu mosgiau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor mai "nid y grefydd a ddylai fod o dan ystyriaeth ond y cais" ac atebodd Mr Ahmed: "Ond ar yr un pryd, gadeirydd, mae e'n rhywbeth sydd angen i bobl wybod ... dyw e ddim i wneud ag unrhyw grefydd ... rwy'n gwybod am filoedd ohonyn nhw."

Ychwanegodd ei fod yn "cefnogi cymunedau o bob diwylliant. Fel Mwslim fy hun, does na ddim rheswm i fi beidio â mynd i fosg arall."

Pan ddywedodd y cadeirydd eto nad oedd hyn ddim i'w wneud â'r cais, fe atebodd Mr Ahmed: "Mae na faterion ond does dim yn fy stopio i rhag mynd i lefydd eraill."

Ychwanegodd Mr Ahmed ei fod yn cyfeirio at uchder y meindwr pan oedd yn sôn am faterion eraill.

Dywedodd hefyd: "Nid wyf wedi camarwain neb.

"Dywedodd y swyddog bod 144 ohonynt a dywedais i bod miloedd o Fwslimiaid yng Nghaerdydd yn gyffredinol."

Ac fe ddywedodd y byddai yna groeso i Fwslimiaid Ahmadi mewn mosgiau eraill.

Ar adeg cynnal y pwyllgor roedd Mr Ahmed yn gynghorydd llafur ar gyfer Trebiwt ond ar Fai 4 cafodd ei etholi i gynrychioli Cathays.

Mae'r Gymdeithas Fwslimiaid Ahmadi wedi penodi ymgynghorydd cynllunio a Chwnsler y Frenhines i herio'r penderfyniad.