Buddugoliaeth i Forgannwg yn y Cwpan Undydd

  • 12 Mai 2017
Colin Ingram Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Aeth Colin Ingram heibio 7,000 o rediadau yn ei yrfa

Fe ddechreuodd pethau'n dda i Forgannwg ar daith i Southampton i herio Hampshire yn y Cwpan Undydd - fe wnaethon nhw alw'n gywir a dewis maesu.

Wedi i Marchant De Lange gipio tair wiced gynnar i adael y tîm cartref ar 54 am 3, roedd y penderfyniad yn ymddangos yn un da.

Ond yna fe darodd capten Hampshire, James Vince, sgôr o 178 oddi ar 138 o beli a gyda chymorth Liam Dawson yn bennaf daeth y batiad i ben ar 332 am 6.

Fe gollwyd un belawd yr un oherwydd oedi am y glaw am gyfnod byr, ac roedd gan Forgannwg felly 49 pelawd i gyrraedd y nod o 333.

Roedd y batio'n rhy araf o lawer ar ddechrau'r batiad er i Colin Ingram geisio adfer pethau. Fe wnaeth gyrraedd 50 am y trydydd tro'n olynol yn y gystadleuaeth, gan basio 7,000 o rediadau yn ei yrfa ar y lefel uchaf yn y broses.

Aeth Ingram ymlaen at y 100 mewn batiad ardderchog, ond roedd y cymorth y pen arall yn amrywiol tan i Chris Cooke ddod i'r llain.

Fe wnaeth Ingram a Cooke sgorio'r gyflym dros ben gan ddod â Morgannwg o fewn cyrraedd, a phan aeth Ingram am 115 roedd yn ymddangos bod gobeithion Morgannwg wedi mynd gydag e.

Ond aeth Cooke hefyd dros yr 50 ac roedd angen naw rhediad yn unig o'r belawd olaf am y fuddugoliaeth. Tarodd Cooke (59) y bêl olaf ond un am 6 am y fuddugoliaeth.

Hampshire v. Morgannwg - Y Cwpan Undydd (Southampton) - Sgôr terfynol:

Hampshire: 332 am 6 (49 pelawd)

Morgannwg: 334 am 7 (48.5 pelawd)

Morgannwg yn fuddugol o dair wiced.