Lle Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ddiogel

Abertawe yn dathlu Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Abertawe yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr tymor nesaf

Bydd Abertawe yn parhau i chwarae pêl-droed yn Uwch Gynghrair Lloegr tymor nesaf yn dilyn colled Hull City yn erbyn Crystal Palace ddydd Sul.

Yn dilyn buddugoliaeth Abertawe oddi cartref yn Sunderland ddydd Sadwrn o 2-0, roedd yn rhaid i Hull City ennill neu gael gêm gyfartal yn erbyn Crystal Palace ddydd Sul er mwyn cael unrhyw siawns o beidio cwympo i'r Bencampwriaeth.

Ond colli o 4-0 oedd hanes y Teigrod yn Llundain, sy'n golygu bod Abertawe bedwar pwynt yn glir o'r safleoedd cwymp gyda dim ond un gêm yn weddill o'r tymor.

Bydd Abertawe nawr yn chwarae gêm olaf y tymor yn Stadiwm Liberty yn erbyn West Brom ar 21 Mai yn gwybod eu bod yn saff o chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr tymor nesaf.