Cyfle i bobl holi gwyddonwyr yn nhafarndai Caerdydd

Model Gwyddonol Image copyright Nick Rutter
Image caption Bydd modelau tebyg i hyn yn ymddangos yn nhafarndai Caerdydd

Bydd tafarndai Caerdydd yn croesawu gwyddonwyr i siarad am eu gwaith wrth i ŵyl ryngwladol gyrraedd y brifddinas.

Mae'r cynllun Public Science Talks yn dod i Gymru am y tro cyntaf, ac yn rhoi cyfle i bobl siarad gyda gwyddonwyr mewn "llefydd cyfarwydd, fel tafarn wrth gael peint".

Bydd yr ŵyl sy'n para tridiau yn dechrau ddydd Llun ac yn cynnwys 24 gwyddonydd fydd hefyd yn gwneud arbrofion.

Mae digwyddiadau tebyg yn digwydd ar hyd 100 o ddinasoedd mewn 12 gwlad ar draws y byd.

Dywedodd cydlynydd yr ŵyl, Michael Motskin: "Mae gwyddoniaeth weithiau yn cael ei gamddeall, sy'n arwain at chwedlau gwyddonol.

"Y ffordd orau i oroesi hyn yw rhoi cyfle i bobl siarad gyda gwyddonwyr mewn lle cyfarwydd, fel mewn tafarn wrth gael peint," meddai.