Gŵyl Fwyd Caernarfon 2017

  • 14 Mai 2017
Go brin y cafodd Edward I wledd fel hon
Image caption Go brin y cafodd Edward I wledd fel hon

Roedd tre'r Cofi dan ei sang ar 13 Mai ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon. Dyma i chi 'chydig o flas y diwrnod.

Rhybudd: Mi fyddwch chi eisiau bwyd cyn dod i ddiwedd yr oriel!:


Image caption Mi fedrwch chi fancio y bydd o'n ddiwrnod da!
Image caption Barnu'r bwyd 'ta draw am bic-Nic?
Image caption "Smo fi'n hoffi'r tywydd sych 'ma" "Na finne chwaith!"
Image caption Llŷr Ifans, fu'n chwarae rhan Syr Wynff y llynedd, yn gobeithio y bydd na fwy na slepjan ar y fwydlen
Image caption Na! Dydy Lisa Fearn ddim yn siarad trwy'i het!
Image caption Mae 'na fwy o bobl yn dre 'ma heddiw na diwrnod sêl siop Nelson sdalwm!
Image caption Tîm pêl-droed Aber-soch yn cael hoe cyn eu gêm yn erbyn Wrecs-ham
Image caption Roedd 'na wledd o gerddoriaeth yn ystod y dydd hefyd a Meinir Gwilym ymhlith y perfformwyr
Image caption Dal yn llawn egni ar ôl blasu'r holl fwyd neis 'na
Image caption Llwyfan i dalent ifanc. Patrobas o Ben Llŷn yn cyfuno'r cyfoes gyda'r traddodiadol
Image caption Llwnc destun i ddwsin disglair Caernarfon!
Image caption Digon o sôs coch, dim nionod i ni.. diolch!