Dyn 48 oed o Fae Cinmel wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth

Tracy Kearns Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Tracy Kearns wedi bod ar goll ers 7 Mai

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn 48 oed o Fae Cinmel ger y Rhyl, wedi'i gyhuddo o lofruddio ei bartner Tracy Kearns.

Mae'r Heddlu hefyd wedi cadarnhau bod y corff a wnaethpwyd dod o hyd iddo ddydd Sadwrn bellach wedi cael ei adnabod fel Ms Kearns.

Roedd Ms Kearns wedi bod ar goll ers 7 Mai.

Bydd ei phartner Anthony James Bird yn mynd o flaen Llys ynadon Llandudno ddydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Dywedodd y Prif Arolygydd Neil Harrison: "Fe allai gadarnhau mai corff Tracy Kearns, oedd wedi bod ar goll gafodd ei ddarganfod ddydd Sadwrn.

"Mae ein meddyliau ni gyd gyda theulu a ffrindiau Tracy yn ystod y cyfnod anodd yma.

"Mae ei phartner Anthony James Bird, 48 oed o Fae Cinmel wedi ei gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns a bydd yn ymddangos o flaen Llys ynadon yn Llandudno ddydd Llun.

"Rwy'n ymwybodol o'r effaith mae'r digwyddiad wedi ei gael yn lleol a hoffwn ddiolch i gymuned Bae Cinmel am eu hamynedd a chefnogaeth dros y pum niwrnod diwethaf."

Straeon perthnasol