Buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Caint

Will Bragg Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Will Bragg i gael 94 rhediad allan o 356 i Forgannwg

Llwyddodd Morgannwg i ennill yn y Cwpan Undydd o 15 rhediad yn erbyn Caint ddydd Sul.

Roedd Caint allan i gyd am 341 ac fe orffennodd Morgannwg yn 356-7 yn Abertawe.

Roedd Chris Cooke ac Andrew Salter ar dân i Forgannwg wrth iddyn nhw daro 105 o rediadau yn y deg pelawd olaf.

Llwyddodd Colin Ingram i daro chwe phwynt wyth o weithiau wrth i Will Bragg hefyd lwyddo i gael pwyntiau am bron pob pelawd yr oedd yn ei wynebu.

Dyma felly oedd pedwaredd buddugoliaeth Morgannwg mewn wyth gem, tra bod Caint yn parhau ar waelod y tabl.