Giro d'Italia : Ergyd i obeithion y Cymro Geraint Thomas

Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi dioddef ergyd i'w obeithion o ennill y ras seiclo Giro d'Italia ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad 15km o'r llinell derfyn ddydd Sul.

Roedd Thomas yn mynd fewn i nawfed cymal y ras yn yr ail safle, ond gorffennodd bum munud y tu ôl i Quintanta sydd yn arwain.

15km o'r llinell derfyn fe wnaeth Thomas ddiodef gwrthdrawiad gyda beic modur yr Heddlu gan ddatgymalu ei ysgwydd.

"Mae'n warthus, dylai pethau fel hyn ddim digwydd," meddai Thomas.

"Fe allai wedi bod llawer gwaeth. Rydym wedi colli pum munud ond dwi'n teimlo ein bod wedi colli tair munud ar ochr y ffordd.

"Mae digon o gymalau yn weddill ac mae posib y gallwn lwyddo i orffen yn y 10 uchaf neu well," meddai.