Dyn wedi marw ar ôl disgyn lawr hafn ar Fynydd Tryfan

  • 14 Mai 2017
Mynydd tryfan Image copyright Terry Hughes / Geograph
Image caption Cafodd yr Heddlu alwad am 12:10 yn adrodd bod dyn wedi disgyn lawr hafn ar ochr ogleddol mynydd Tryfan

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn wedi marw ar un o fynyddoedd Eryri ddydd Sul.

Cafodd yr Heddlu alwad am 12:10 yn adrodd bod dyn wedi disgyn lawr hafn ar ochr ogleddol mynydd Tryfan.

Cafodd Gwasanaeth achub mynydd Ogwen a'r hofrennydd chwilio ac achub eu galw i'r digwyddiad.

Dywedodd y Cwnstabl Gethin Jones o Heddlu'r Gogledd: "Fe gafodd dyn sydd ddim yn lleol i'r ardal ei ddarganfod a'i gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ble daeth cadarnhad ei fod wedi marw.

"Mae ei deulu wedi cael gwybod ac rydym yn meddwl amdanynt yn ystod y cyfnod anodd yma".