Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns

  • 15 Mai 2017
Anthony James Bird a Tracy Kearns Image copyright Wales News Service/Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Mae Anthony James Bird wedi'i gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns

Mae dyn o Fae Cinmel yn Sir Conwy wedi ymddangos o flaen llys i wynebu cyhuddiad o lofruddio Tracy Kearns.

Yn ystod y gwrandawiad yn Llys Ynadon Llandudno fe siaradodd y diffinydd Anthony James Bird, 48, i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.

Clywodd y llys ei fod wedi ei gyhuddo o lofruddio Tracy Kearns rhwng 7 ac 11 Mai yn eu cartref yn Rhodfa'r Gader ym Mae Cinmel.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Mae corff gafodd ei ddarganfod gan Heddlu Gogledd Cymru ddydd Sadwrn wedi ei adnabod fel un Ms Kearns, oedd wedi bod ar goll ers 7 Mai.