Cymru dan-20 heb Woodburn a Wilson yn Nhwrnament Toulon

  • 15 Mai 2017
Ben Woodburn Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Ben Woodburn ei gap llawn cyntaf i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mawrth

Mae rheolwr canolradd Cymru Robert Page wedi cyhoeddi'r garfan o 20 o chwaraewyr fydd yn mynd i Dwrnament Toulon yn ddiweddarach yn y mis.

Mae 12 gwlad wedi cael gwahoddiad i chwarae yn y gystadleuaeth bêl-droed dan-20, gyda Chymru'n wynebu Ffrainc yn eu gêm gyntaf o'r gystadleuaeth ar 30 Mai.

Gyda charfan hŷn Cymru yn chwarae ei gêm ryngwladol nesaf yn Serbia ar 11 Mehefin, mae cryn ddyfalu am sawl chwaraewr ifanc amlwg sydd heb eu cynnwys ar gyfer Twrnament Toulon.

Nid yw Ben Woodburn a Harry Wilson wedi eu cynnwys yn y garfan i Toulon, gan awgrymu y byddan nhw'n cael eu cynnwys yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer y daith i Serbia.

Chwaraewr disglair arall sydd ddim yn y garfan yw Ethan Ampadu am ei fod yn rhy ifanc i gael ei gynnwys, ag yntau ond yn 16 oed.

O'r chwaraewyr sydd wedi'u cynnwys ar gyfer Twrnament Toulon, mae Tyler Roberts wedi disgleirio i'r Amwythig eleni, gyda George Thomas yn ymddangos i'w glwb Coventry yn Adran Un.

Yn dilyn eu gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc, bydd Cymru'n wynebu Bahrain ar 2 Mehefin a Côte d'Ivoire ar 5 Mehefin.

Carfan Cymru: Lewis Thomas (Abertawe), Luke Pilling (Tranmere Rovers), Cole Dasilva (Chelsea), Cameron Coxe (Caerdydd), Mitchell Clark (Aston Villa), Regan Poole (Manchester United), Aron Davies (Fulham), Rhys Norrington-Davies (Sheffield United), Rhys Abbruzzese (Caerdydd), Joe Rodon (Abertawe), Matthew Smith (Manchester City), Nathan Broadhead (Everton), Jack Evans (Abertawe), David Brooks (Sheffield United), Mark Harris (Caerdydd), Rhyle Ovenden (Watford), Tyler Roberts (West Bromwich Albion), Daniel James (Abertawe), Liam Cullen (Abertawe), George Thomas (Coventry City).