Carcharu dyn am frathu heddwas mewn ymosodiad

  • 15 Mai 2017
Leroy Parry Image copyright Wales news service
Image caption Clywodd y llys bod Leroy Parry wedi bod yn gaeth i gyffur Sbeis ers pum mlynedd a hanner

Mae dyn oedd yn gaeth i gyffur Sbeis wedi ei garcharu am 20 mis am frathu heddwas yn Abertawe.

Fe wnaeth Leroy Parry, 24 oed o ardal Waunarlwydd, frathu PC Gareth Phillips am bron i funud yn y digwyddiad ym mis Ebrill.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ei bod wedi cymryd saith heddwas i'w rwystro.

Cyffur synthetig yw Sbeis, sydd yn anghyfreithlon yn y DU.

Fe wnaeth Parry gyfaddef i gyhuddiadau o achosi cythrwfl, ymosod gan achosi niwed corfforol ac ymosod ar dri heddwas.

Clywodd y llys bod Parry wedi bod yn gaeth i Sbeis ers pum mlynedd a hanner, a'i fod yn diodde' o symptomau diddyfnu (withdrawal) pan ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghanol Abertawe ar 7 Ebrill.

Image copyright Wales news service
Image caption Fe wnaeth Leroy Parry frathu PC Gareth Phillips am bron i funud yn y digwyddiad

Dywedodd Tom Scapens ar ran yr erlyniad bod Parry yn "anifeilaidd" ac yn "ysgyrnygu".

Fe wnaeth Parry ymddiheuro i'r heddweision yn ddiweddarach, gan ddweud ei fod wedi ymddwyn y ffordd y gwnaeth am ei fod "angen Sbeis".

Clywodd y llys bod Parry wedi bod yn euog o 41 o droseddau yn y gorffennol, a bod ganddo hanes o ymosod ar heddweision.