Cynnydd mewn masnachu a chaethwasiaeth yng Nghymru

  • 16 Mai 2017
Caethwasiaeth
Image caption Mae'r heddlu'n dweud bod caethwasiaeth fodern yn cynnwys ecsbloetio rhywiol, gorfodi pobl i weithio, trais yn y cartref neu gyffuriau

Mae nifer y bobl sydd mewn perygl o gael eu masnachu neu ddioddef caethwasiaeth fodern wedi codi pedair gwaith yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.

Cafodd 125 o ddioddefwyr eu cofnodi drwy'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn 2016, o'i gymharu â 32 yn 2012, gan gynnwys pobl o Fietnam, Nigeria, Romania, Albania a dinasyddion Prydeinig hefyd.

Yn ogystal, mae prif swyddog Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru, Stephen Chapman, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn pryderu ynglŷn â ffiniau'r wlad.

Mae tri o heddluoedd Cymru wedi dweud eu bod yn ceisio codi ymwybyddiaeth o droseddau caethwasiaeth.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Chapman ei fod yn "ymwybodol ac yn bryderus am ein ffiniau ni".

"Er bod gyda ni borthladdoedd môr a meysydd awyr, does dim modd cadw llygad ar bwy sy'n dod i mewn drwy ein ffin ni gyda Lloegr.

"Ac mae 'na borthladdoedd ledled Cymru, lle does neb yno."

Image caption Mae Albania yn un o'r gwledydd o ble y mae pobl yn aml yn cael eu masnachu

Ychwanegodd: "Mae gyda ni'r Ardal Deithio Gyffredin lle nad oes rhaid i bobl ddangos eu pasbortau wrth deithio rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ac yn amlwg mae hyn yn peri rhywfaint o anhawster."

Dywedodd bod tua 5,500 o bobl yng Nghymru wedi cael eu hyfforddi yn 2016 i geisio adnabod dioddefwyr posibl, maen nhw'n cynnwys aelodau o'r heddlu, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion ysbytai ac elusennau.

Image caption Daeth Blessing i Brydain gydag addewid am "fywyd gwell"

Un sydd wedi dioddef yw Blessing, menyw o Nigeria ddaeth i Gaerdydd ar ôl ffoi rhag bywyd o gaethiwed yn Llundain.

Yn ddi-addysg ac yn gweithio fel morwyn ers yn saith oed yn ei gwlad enedigol, fe gafodd Blessing ei cham-drin yn rhywiol cyn cael ei masnachu.

Yn 2005 fe ddaeth ei modryb â hi i Brydain, gan addo "bywyd gwell".

Ond roedd Blessing o dan reolaeth lwyr ei pherthynas ac roedd unrhyw arian roedd hi'n ei ennill yn mynd yn syth i gyfrif ei modryb.

"Mae'n anodd oherwydd os nad yw rhywun yn gwybod eu bod nhw'n cael eu masnachu, fydde fe'n anodd gwybod sut i ddelio â'r sefyllfa," meddai.

"Yn fy achos i - roeddwn i'n meddwl mai cael fy helpu oeddwn i."

Ychwanegodd: "Rwy'n anhapus gan fy mod yn teimlo bod bobl wedi cymryd mantais o fy amgylchiadau a'r sefyllfa.

"Dwi am anghofio am bopeth sydd wedi digwydd i fi yn y gorffennol - dwi jyst eisiau cau'r bennod honno."

Mae hi ar hyn o bryd yn aros i glywed a fydd hi'n cael lloches ym Mhrydain.

Mae un o asiantaeth sy'n helpu dioddefwyr wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl y maen nhw'n helpu yng Nghymru.

Mae nifer y bobl sydd wedi eu cefnogi gan elusen Bawso yng Nghymru wedi cynyddu o 82 yn 2014-2015 i 209 yn 2016-2017.

"Ers 2006 yn flynyddol 'da ni wedi gweld o leiaf cynnydd o 50% o bobl sy'n dod i'n llety ni," meddai Angelina Rodriguez o'r elusen.

"'Da ni hefyd yn gweld llawer o bobl sydd wedi bod trwy fasnachu flynyddoedd yn ôl, heb iddyn nhw sylweddoli eu bod nhw wedi bod yn ddioddefwyr."

Image caption Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams bod caethwasiaeth fodern yn effeithio ar nifer fawr o feysydd

Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Julian Williams - sy'n arwain gwaith lluoedd Cymru yn y maes - yn dweud bod caethwasiaeth fodern yn drosedd sy'n cynyddu.

"Mae'n cael ei alw'n drosedd gudd, trosedd newydd sy'n dod i'r amlwg gan ei fod yn effeithio ar nifer o feysydd," meddai.

Dywedodd bod hyn yn cynnwys ecsbloetio rhywiol, gorfodi pobl i weithio, caethwasanaeth domestig sy'n gallu arwain at gamdrin plant yn rhywiol, trais yn y cartref, benthyca arain yn anghyfreithlon neu gyffuriau.

Mae Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn cymryd rhan mewn wythnos i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a sut i adnabod yr arwyddion.

Straeon perthnasol