Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad â lori yn Sir Gâr

  • 15 Mai 2017
Pontarsais Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A485 ym Mhontarsais

Mae gyrrwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A485 yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym Mhontarsais, rhwng Rhydargaeau ac Alltwalis, am tua 15:15.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys y bu farw gyrrwr y car yn y gwrthdrawiad.

Mae'r ffordd wedi'i chau o gylchfan Glangwili at garej Windy Corner.