Cyn heddwas o Lŷn yn cofio Ian Brady
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Roedd y cyn heddwas Evan John Hughes yn siarad am y brofiad o warchod y llofrudd Ian Brady

16 Mai 2017 Diweddarwyd 09:30 BST

Mae'r llofrudd plant Ian Brady, 79 oed, wedi marw.

Roedd e a'i gariad, Myra Hindley yn gyfrifol am farwolaethau pump o blant yn y 60au.

Cafodd ei garcharu yn 1966, ar ôl ei arestio yn Hydref 1965.

Ditectif gwnstabl ifanc o Ben Llyn, oedd yn gweithio yn Sir Caer ar y pryd, gafodd y dasg o warchod y llofrudd yn Swyddfa'r Heddlu yn Hyde.

Erbyn hyn mae Evan John Hughes yn ei 80au, yn son am ddigwyddiadau'r bore hwnnw dos hanner canrif wrth ohebydd BBC Cymru Alun Rhys.