Cyhoeddi enw cerddwr fu farw ar fynydd Tryfan

Mynydd tryfan Image copyright Terry Hughes / Geograph

Mae enw dyn fu farw pan ddisgynnodd mwy na 200 troedfedd ar fynydd Tryfan dros y penwythnos wedi cael ei gyhoeddi.

Roedd John Gerrard Wynne yn 61 ac o Exmouth yn Nyfnaint.

Roedd Mr Gerrard wedi bod yn cerdded gyda'i ferch 26 oed pan ddisgynnodd.

Ar ôl cyrraedd y copa ddydd Sul, daeth y ddau i lawr ceunant deheuol y mynydd, ond ar ôl sylweddoli bod y llwybr yn anoddach nag oedden nhw wedi disgwyl fe wnaethon nhw geisio troi 'nôl.

Wrth iddyn nhw droi fe lithrodd Mr Wynne a disgyn.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ei fod wedi disgyn cryn bellter.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle daeth y cadarnhad ei fod wedi marw.

Fe fydd cwest yn cael ei gynnal i'w farwolaeth.