Cyhoeddi delwedd o ddyn wedi trosedd dinoethi

  • 16 Mai 2017
Ffordd Belmont a'r ddelwedd e-fit o'r dyn Image copyright Heddlu Gogledd Cymru/Google
Image caption Mae'r heddlu'n chwilio am ddyn yn sgil digwyddiad ar Ffordd Belmont ym Mangor

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi delwedd digidol o ddyn y maen nhw am ei holi mewn cysylltiad â throsedd anweddus ym Mangor wythnos yn ôl.

Ar ddydd Mawrth 9 Mai fe wnaeth dyn ddinoethi ei hun o flaen dynes am 11:15 wrth iddi gerdded ar hyd Ffordd Belmont ger Ffordd Caergybi.

Cafodd y dyn ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua 5'10" o daldra ac o gorff cymedrol. Roedd ganddo wallt cyrliog du ac roedd yn ei 20au canol.

Dywedodd yr Arolygydd Owain Llewellyn: "Ry'n ni'n gofyn i'r cyhoedd a welodd y digwyddiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd ac wedi gweld person o'r disgrifiad yma i gysylltu gyda gorsaf heddlu Bangor.

"Ry'n ni'n cynnal sawl patrôl ychwanegol yn yr ardal i dawelu ofnau pobl tra bod yr ymchwiliad yn parhau."

Dylai pobl all fod o gymorth ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod VO66289, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.